CYPE(5)-22-18 – Papur 1 

 

Ar ran Prifysgol Caerdydd, gweler ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach ynghlwm.

Fel y gwyddoch, mae Prifysgol Caerdydd yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol a chanddi weledigaeth feiddgar a strategol ac mae wedi'i lleoli mewn prifddinas hardd a ffyniannus. Daeth ein gwaith ymchwil rhagorol yn 5ed am ansawdd ac yn 2il am effaith ymysg prifysgolion y DU yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014. Rydym yn cynnig profiad addysgol rhagorol i'n myfyrwyr. Drwy roi pwyslais ar greadigrwydd a chwilfrydedd, ein nod yw cyflawni ein rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd.

Ein huchelgais yw bod ymhlith y 100 o brifysgolion gorau’r byd a’r 20 uchaf yn y DU. Mae ein strategaeth newydd yn amlinellu ein cyfeiriad strategol a’n pwyslais ar ymchwil, arloesedd, addysg a myfyrwyr, ynghyd â’n cenhadaeth ryngwladol a dinesig. Mae 31,595 o fyfyrwyr wedi cofrestru gyda ni, sy’n hanu o dros 130 o wledydd, gan gynnwys yr UE. Mae gennym gymuned ymchwil sy'n arwain y byd gyda sylfaen ymchwil gref ac eang, ac rydym wedi ennill contractau ymchwil â chyfanswm gwerth dros £530 miliwn. Rydym wedi ennill saith o Wobrau Pen-blwydd y Frenhines ac mae dau o enillwyr gwobrau Nobel ymhlith ein hymchwilwyr.

Dros y misoedd diwethaf, mae cydweithwyr a fi wedi darllen papurau Brexit Llywodraeth Cymru ar bolisi masnach a buddsoddi rhanbarthol â diddordeb. Rwyf i'n croesawu ymgysylltu rhagweithiol Llywodraeth Cymru gyda rhai o'r heriau mawr sy'n wynebu ein heconomi yng ngoleuni'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Edrychaf ymlaen at weld adroddiad terfynol eich pwyllgor, a byddwn yn fwy na hapus i gyfrannu at unrhyw drafodaethau y gallech fod yn eu cynnal ar y pwyntiau a godir uchod. Cysylltwch â mi ar bob cyfrif os oes angen unrhyw wybodaeth arall arnoch.

 

Yr Athro Colin Riordan


 

Trosolwg

1.          Bydd cymorth ar gyfer addysg uwch yn hanfodol os yw Cymru a'r DU i sicrhau llwyddiant yn sgil Brexit. Drwy sicrhau setliad effeithiol ôl-Brexit, gall prifysgolion barhau i wneud cyfraniad hanfodol i wlad lwyddiannus sy’n ddeinamig ac yn gystadleuol yn rhyngwladol, a pharhau i ddenu doniau rhyngwladol.

2.         Mae Prifysgol Caerdydd yn sbardun allweddol ar gyfer ffyniant economaidd a chymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn brifysgol fyd-eang sy'n edrych tuag allan gyda chysylltiadau â thros 100 o wledydd, yn ogystal ag ymdeimlad cryf o genhadaeth ddinesig. Canfu adroddiad gan London Economics  yn 2016 fod Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu bron i £3bn i economi'r DU, a bod y brifysgol wedi gwneud cyfraniad o tua £2.2bn i economi Cymru yn 2014–15. Mae Prifysgol Caerdydd yn cynhyrchu £6.36 am bob £1 y mae'n ei gwario, ac roedd yn un o’r pum prifysgol ar y brig yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014. Mae ein gwaith ymchwil yn mynd i'r afael â heriau o arwyddocâd byd-eang tra bo ein myfyrwyr yn cael profiad myfyriwr sy’n sgorio ymhlith y gorau yn y Deyrnas Unedig.

3.         Er ein bod yn croesawu'r cynnydd a wnaed hyd yma gan Lywodraeth y DU ar y cytundeb pontio, mae llawer yn dal i fod ar ôl heb ei drafod. Bydd y trafodaethau hynny'n gymhleth ac mae posibilrwydd cryf y bydd unrhyw gytundeb ar Horizon 2020 ac Erasmus+ yn dibynnu ar ddod i gytundeb boddhaol ynghylch materion eraill fel rhan o becyn, a allai achosi oedi fydd yn ein rhoi dan bwysau amser unwaith eto cyn y bydd Prydain yn ymadael yn gyfan gwbl yn 2021. Mae ar y sector prifysgolion wir angen datrys materion o'r fath o leiaf 18 mis ymlaen llaw – hynny yw, erbyn canol 2019 fan bellaf – er mwyn osgoi newid sydyn, neu o leiaf bwlch rhwng diwedd Horizon 2020 ac Erasmus+ a'r rhaglenni a ddaw ar eu hôl. Byddai pontio bwlch o'r fath yn anodd ac ni fyddai'n sefyllfa ddelfrydol, a gallai olygu y byddem yn ei chael hi'n anodd ymgysylltu'n ddigonol â’r rhaglenni olynol pan fydd gennym fynediad atynt. Fodd bynnag, rydym yn llwyr groesawu ymrwymiad y Prif Weinidog yn ei haraith yn Jodrell Bank ar 21 Mai 2018, o ran talu am “gysylltiad llawn” â rhaglenni ymchwil yr UE.  Ar ben hynny, mae materion cysylltiedig fel treialon clinigol a'r fframwaith diogelu data, a allai gael effaith go iawn ar ymchwil. Ceir ewyllys da ar y ddwy ochr i fynd i'r afael â'r holl gwestiynau hyn a'u datrys, a bydd gennym ddigon o amser i wneud hynny yn ôl pob golwg. Fodd bynnag, mae llawer yn dibynnu ar ddatrys y problemau mawr yn ystod y chwe mis nesaf.

4.         Nodwn adroddiad diweddar  y Pwyllgor Materion Allanol i berthynas Cymru yn y dyfodol gyda'r UE, a chroesawn y canfyddiadau canlynol yn gryf:

·                     Argymhelliad 6. Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru'n ceisio eglurder gan Lywodraeth y DU ar yr amserlenni ar gyfer symud i system fewnfudo yn y dyfodol ar y cyfle cyntaf er mwyn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen ar fusnesau a chyrff sector cyhoeddus ynghylch ystyriaethau recriwtio y gallent eu hwynebu yn y dyfodol.

·                     Argymhelliad 10. Os na cheir cytundeb ar Horizon 2020 ac unrhyw raglenni fydd yn ei holynu rhwng Llywodraeth y DU a'r UE, argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd y gallai barhau i ddarparu cymorth i sefydliadau Cymru allu cydweithio gyda chymheiriaid Ewropeaidd ar ôl Brexit.

·                     Argymhelliad 11. Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru'n edrych ar y potensial ar gyfer rhaglen symudedd myfyrwyr rhyngwladol newydd ar ôl Brexit, a’i bod yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor o fewn chwe mis.

·                     Argymhelliad 12. Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru'n mapio holl rwydweithiau presennol yr UE, ar draws pob sector, y mae sefydliadau Cymreig yn cyfranogi ynddynt. Dylid cyhoeddi canlyniadau'r ymarfer mapio hwn erbyn mis Mehefin 2018.

·                     Argymhelliad 13. Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau'r ymarfer mapio hwn, dylai Llywodraeth Cymru ymgynghori gyda rhanddeiliaid ar bwysigrwydd y gwahanol rwydweithiau hyn, eu manteision i Gymru, a pha rwydweithiau y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer mynediad ar ôl Brexit. Dylid cwblhau'r ymgynghoriad erbyn hydref 2018.

·                     Argymhelliad 14. Argymhellwn, ar sail canlyniadau'r ymgynghoriad, y dylai Llywodraeth Cymru baratoi cynlluniau ar gyfer buddsoddi mewn cyfranogiad Cymreig yn y rhwydweithiau hyn, ac ystyried y cyfleoedd ariannu a'r goblygiadau i gymdeithas sifil Cymru er mwyn parhau i gydweithio gyda phartneriaid mewn rhwydweithiau allweddol.

·         Argymhelliad 17. Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru'n archwilio cyfleoedd i gyrff llywodraethol ac anllywodraethol yng Nghymru allu ymgysylltu'n effeithiol gyda'r UE a'i sefydliadau ar ôl Brexit.

Anogwn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gryf i ystyried cefnogi ac ehangu’r argymhellion hyn fel rhan o'ch ymchwiliad eich hun.

5.         Ymdrinnir isod â’n hymatebion i gwestiynau penodol yr ymchwiliad. Er mwyn osgoi ailadrodd, mae rhai o’r cwestiynau wedi’u grwpio.

Cwestiwn 1: Beth yw’r heriau posibl i lwyddiant dysgwr a chyflogadwyedd ôl-Brexit, a beth sy’n cael ei wneud a gellid ei wneud i ddiwallu’r rhain?

Mae Prifysgol Caerdydd yn credu bod perygl i lwyddiant dysgwyr os nad yw myfyrwyr o’r UE yn penderfynu astudio ym mhrifysgolion yn y DU mwyach. Rydym o’r farn fod cael myfyrwyr (a staff) o’r UE a ledled y byd yn creu amgylchedd dysgu amrywiol a buddiol. Mae'r amrywiaeth hon yn meithrin creadigrwydd ac arloesedd, ac mae'n rhan hollbwysig o'n diwylliant. Er ein bod wedi croesawu'r cadarnhad y bydd myfyrwyr o’r UE sy’n astudio yma ar hyn o bryd yn derbyn cymorth i fyfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau, mae'n bosibl y caiff hyn ei wrthbwyso gan y canfyddiad fod y DU yn ddigroeso. Gallai hyn gael effaith ar fyfyrwyr sy’n bwriadu dod eleni, ac ar recriwtio dros y blynyddoedd sydd i ddod. Byddem o blaid sicrhau bod myfyrwyr o’r UE hefyd yn cael sicrwydd tebyg ynghylch mynediad at gymorth ariannol y llyfr benthyciadau ar gyfer myfyrwyr o’r UE sy'n dechrau cyrsiau yn 2019/20. Credwn y bydd hyn yn cyfrannu rywfaint at sicrhau myfyrwyr o’r UE fod croeso iddynt yn y DU ac y cânt eu gwerthfawrogi. Mae ymchwil yn dangos bod profiad rhyngwladol yn gwella canlyniadau academaidd a chyflogadwyedd myfyrwyr. Er enghraifft, mae myfyrwyr sy’n mynd dramor 9% yn fwy tebygol o ennill gradd dosbarth cyntaf neu radd 2:1, 24% yn llai tebygol o fod yn ddi-waith, a 9% yn fwy tebygol o fod mewn swydd i raddedigion o fewn chwe mis ar ôl graddio, o’u cymharu â’r rhai nad ydynt yn mynd dramor.  Y myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig a grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig sydd â’r mwyaf i’w ennill. Ym Mhrifysgol Caerdydd, dangosodd dadansoddiad yn 2016 fod myfyrwyr sydd wedi bod ar leoliad rhyngwladol yn fwy tebygol o gael canlyniad ‘cadarnhaol’ yn yr arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (DLHE), a bod y gwahaniaeth yn ystadegol bwysig.

Cwestiwn 2: I ba raddau y byddai colli unrhyw ran o gynllun symudedd Erasmus+ yr UE yn cael effaith ar y sector, a beth yw’r cyfleoedd ar gyfer cynlluniau symudedd eraill sy’n bodoli ar hyn o bryd, neu y gellid eu datblygu o bosibl?

Mae angen sicrwydd cynnar ynghylch mynediad parhaus i Erasmus+, ond os bydd hynny’n amhosibl neu’n rhywbeth na ddymunir, rhaid sicrhau cynllun amnewid i Gymru neu’r DU a fydd yn caniatáu i’n myfyrwyr astudio, gweithio a gwirfoddoli dramor.

Yn ystod 2016/17, roedd 20.2% o fyfyrwyr cartref israddedig wedi bod yn symudol yn rhyngwladol yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Caerdydd.  Bu llawer o’r rhain yn cymryd rhan yn y rhaglen Erasmus+, a oedd yn helpu i wella datblygiad personol myfyrwyr, eu dealltwriaeth ryng-ddiwylliannol, a'u galluoedd ieithyddol, yn ogystal â datblygu llawer o'r sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Credwn fod Brexit yn cynnig cyfle i greu rhaglen symudedd allanol ryngwladol newydd a allai efelychu ac efallai gwella elfennau mwyaf llwyddiannus Erasmus+. Byddai hyn yn caniatáu i brifysgolion barhau â’u cydweithio gwerthfawr â phartneriaid yn yr UE a chefnogi pob un o’n myfyrwyr i dreulio cyfnod gorfodol dramor fel rhan o’u cyrsiau perthnasol, yn ogystal â chefnogi’r broses ehangach o ryngwladoli addysg yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig.

Cwestiwn 3: Pa heriau allai Brexit eu peri i gynaliadwyedd ariannol sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch?

Mae oddeutu 7% o incwm ffioedd dysgu Prifysgol Caerdydd yn dod o fyfyrwyr o’r UE sy’n hanu o’r tu allan i’r DU (Ffurflen Gyllid 2016–17 HESA). Mae hwn yn ffigur sylweddol, a bydd yn debygol o fod yn debyg â sefydliadau eraill o Gymru.

Mae'r DU yn fuddiolwr net o gyllid ymchwil o Ewrop. Mae angen cynnal gwariant cyffredinol ar ymchwil a datblygu ar y lefelau presennol o leiaf i ddiogelu adnoddau ymchwil a gwyddoniaeth yn y DU ac i gynnal ein safle fel arweinydd byd yn y maes. Dylai Llywodraeth y DU ystyried o ddifrif y posibilrwydd o drafod mynediad llawn i arian y rhaglen fframwaith. Fel arall, byddai angen darparu hyn drwy gynyddu’r gyllideb genedlaethol ar gyfer gwyddoniaeth ac ymchwil hyd at yr hyn sy’n cyfateb i'r swm a sicrhawyd gan Horizon 2020, gan gydnabod bod y DU yn fuddiolwr net rhaglenni ymchwil yr UE. Cyfanswm gwerth yr arian a gafwyd drwy brosiectau Erasmus+ KA103 a KA107 hyd yma (ers 2014/15) yw €4,097,514.25.

Cwestiwn 4: Pa mor ddibynnol y mae cynlluniau buddsoddi sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach ar gyllid o Ewrop, a beth yw’r cyfleoedd ar gyfer cael ffynonellau gwahanol o gyllid buddsoddi?

Mae prifysgolion yng Nghymru yn derbyn arian sylweddol o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd,  ac mae hynny’n parhau i ddarparu buddsoddiad a chyllid hanfodol ar gyfer prosiectau a seilwaith sy’n cyfrannu at dwf economaidd a chymdeithasol yng Nghymru. Mae Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd hefyd wedi chwarae rôl bwysig o ran arian arloesedd yng Nghymru,  a buddsoddiad preifat mewn ymchwil a datblygiad. Yn ogystal, mae sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a'r DU wedi elwa’n sylweddol ar fenthyg gan Fanc Buddsoddi Ewrop.   Ymchwil ac arloesedd o ansawdd uchel yw conglfeini economi twf, ac mae manteision yn deillio ohonynt ar gyfer holl gymunedau Cymru.

Ceisir eglurhad brys ynghylch sut bydd y cronfeydd hyn yn cael eu cynnal neu eu disodli ar lefel ddatganoledig wedi i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd fel bod modd i brifysgolion Cymru barhau i gael cymaint o effaith economaidd a chymdeithasol â phosibl mewn cymunedau ledled Cymru.

Os bydd y Deyrnas Unedig yn dymuno sefydlu cronfa datblygu rhanbarthol newydd, megis y Gronfa Ffyniant a Rennir arfaethedig yn y Deyrnas Unedig, yn lle Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd, mae’n hanfodol ei bod yn dyrannu cyllid yn briodol i Gymru ac ar sail system debyg, seiliedig ar anghenion, os ydyw i helpu i ailgydbwyso’r economi.

Cwestiwn 6: Beth sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd, a beth y gellid ei wneud, i ddiogelu prosiectau ymchwil cydweithredol a rhwydweithiau ymchwil yr UE wrth baratoi ar gyfer Brexit ac ar ôl hynny? 

Yn ddiweddar, mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi  y byddai’n hoffi i’r DU gael y dewis i “ymgysylltu'n llwyr â rhaglenni gwyddoniaeth ac arloesi Ewropeaidd sy'n seiliedig ar ragoriaeth – gan gynnwys yr olynydd i Horizon 2020 a Euratom R&D”.  Ceisir sicrwydd felly y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i alluogi hyn, yn ogystal ag yn achosion rhaglenni ymchwil ac arloesi yr UE yn y dyfodol sy’n seiliedig ar ragoriaeth, gan gynnwys FP9, sef yr hyn a elwir bellach yn Horizon Europe. Os na fydd mynediad o’r fath yn bosibl – er enghraifft, os yw’r DU yn mabwysiadu statws ‘Trydedd Wlad’ – rhaid sicrhau cynllun arall fydd yn cynnal ymchwil ryngwladol ar y cyd.

Mae Prifysgol Caerdydd o'r farn fod angen cadw lefel gyffredinol y gwariant ar ymchwil a datblygu fel y mae ar hyn o bryd o leiaf i ddiogelu adnoddau ymchwil a gwyddoniaeth y Deyrnas Unedig, ac i gynnal safle’r Deyrnas Unedig fel un o arweinwyr y byd yn y maes hwn. Mae ymchwil ac arloesedd yn digwydd ar draws y byd, ac yn dibynnu ar syniadau a phobl sy’n gallu symud ar draws ffiniau. Nid yr arian a ddarperir gan yr UE yn unig sydd dan sylw yma, ond hefyd y rhwydweithiau a’r cyfleusterau sydd ar gael i ymchwilwyr. Mae parhau i gydweithio mewn rhwydweithiau rhyngwladol yn hanfodol bwysig os yw’r Deyrnas Unedig i gynnal ei statws fel arweinydd ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg, a datblygu diwylliant o arloesedd.

Os bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn sicrhau mynediad parhaus drwy “gysylltiad llawn” at Horizon 2020 a rhaglenni ymchwil ac arloesedd yr UE yn y dyfodol, megis Horizon Europe, bydd yn bwysig sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddylanwadu ar y rhaglen ymchwil a’r mecanweithiau ariannu.

Os na all Llywodraeth y Deyrnas Unedig sicrhau mynediad parhaus, dylai’r llywodraeth sicrhau darpariaeth ar ffurf cyfraniadau uwch i’r gyllideb genedlaethol ar gyfer gwyddoniaeth ac ymchwil sy’n cyfateb i’r swm a sicrhawyd trwy Horizon 2020, gan gydnabod bod y Deyrnas Unedig yn fuddiolwr net presennol rhaglenni ymchwil yr UE. Dylai Llywodraeth y DU ystyried adeiladu ar fecanweithiau sy'n bodoli eisoes, megis y Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang sydd wedi’i thargedu a'r Gronfa Newton, gyda golwg ar ddatblygu rhagor o bartneriaethau dwyochrog (megis uwchgynhadledd ymchwil ddiweddar y Deyrnas Unedig ac Iwerddon).

Os na fydd y Deyrnas Unedig bellach yn rhan o fecanweithiau Ewropeaidd ar gyfer ariannu ymchwil ar ôl Brexit, dylai'r llywodraeth ofyn i Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig (UKRI) awgrymu mecanweithiau eraill, megis Cyngor Ymchwil Rhyngwladol mewn partneriaeth â gwledydd blaenllaw eraill sydd â sylfaen wyddoniaeth uwch ddatblygedig.

Os na ellir sicrhau mynediad digonol at arian, neu os na ellir cael hyd i gyllid hirdymor arall, byddwn nid yn unig yn colli ffrwd ariannu fawr ac unigryw, ond hefyd y cyfleoedd i gymryd rhan mewn mentrau ymchwil cydweithredol rhyngwladol, sydd yr un mor bwysig. Mae cydweithio o'r fath yn elfen hanfodol o wyddoniaeth ragorol, a gallai unrhyw leihad yn hyn achosi niwed parhaol i ymdrechion ymchwil y Deyrnas Unedig.

Cyfanswm gwerth incwm ymchwil yn y dyfodol i Brifysgol Caerdydd o brosiectau byw FP7 a Horizon 2020 a ddyfarnwyd hyd at 22 Mai 2018 yw £34 miliwn, ac mae ceisiadau pellach gwerth £31.6 miliwn i Horizon 2020 ar y gweill. Hyd yn hyn yn Horizon 2020, dyfarnwyd bron i 80 o brosiectau i ni, gwerth cyfanswm o £30.7 miliwn, sy'n cwmpasu pynciau sy'n amrywio o ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o gysylltedd ynni adnewyddadwy i waith ymchwil ym maes diabetes. Cyfanswm gwerth y ceisiadau i Horizon 2020 sy’n cael eu hadolygu ar hyn o bryd yw £31.6 miliwn. Yn ogystal, rydym wedi sicrhau £3.5 miliwn ychwanegol gan raglen Llywodraeth Cymru a ariennir gan yr UE, MSCA (Marie Skłodowska-Curie Actions) COFUND, i gefnogi 19 o gymrodoriaethau ymchwil unigol. Mae ein prosiectau Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) o Gronfeydd Strwythurol yr UE hefyd wedi sicrhau £54 miliwn, ac mae £3.5 miliwn o brosiectau ychwanegol yn aros am gontract. Un derbynnydd sylweddol o'r arian hwn yw Canolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC).

Cwestiwn 7: A oes unrhyw faterion eraill sy'n berthnasol i'r ymchwiliad hwn?

Yn ogystal â’r pwyntiau a wnaed uchod ynghylch Erasmus+, hoffem hefyd godi’r mater cyffredinol o ran statws staff a myfyrwyr o’r UE sy’n hanu o’r tu allan i’r DU ar ôl Brexit. Mae'n bwysig cadw niferoedd myfyrwyr o'r UE o’r tu allan i’r DU yn uchel yng Nghymru, nid yn unig er mwyn prifysgolion Cymru, lle maent yn cyfrif am bedwar y cant o'r holl fyfyrwyr, ond hefyd oherwydd eu bod yn dod ag amrywiaeth i'n corff myfyrwyr ac yn cefnogi'r economi leol. Canfu adroddiad diweddar  gan Prifysgolion Cymru y canlynol:

·         Cynhyrchodd gwariant myfyrwyr o weddill yr UE oddi ar y campws dros £110 miliwn o allbwn yn y DU (gyda £83 miliwn ohono yng Nghymru)

·                     Cynhyrchwyd cyfwerth â 934 o swyddi amser llawn yn y DU (692 yng Nghymru)

·                     Cynhyrchodd myfyrwyr o’r UE sy’n hanu o’r tu allan i’r DU dros £51 miliwn o werth ychwanegol gros y DU (£37 miliwn yng Nghymru)

Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae 16% o'n staff academaidd a 5% o'n myfyrwyr yn wladolion yr UE o’r tu allan i’r DU (mae 10% o'n myfyrwyr ymchwil yn wladolion yr UE). Cyfrannodd ein myfyrwyr rhyngwladol £217 miliwn i’r economi yn 2014/15.  Maent yn ased hirdymor i bartneriaethau diwylliannol a masnachol y Deyrnas Unedig. Nid yw llawer o’r cyhoedd yn gweld myfyrwyr fel mudwyr,  ac nid yw polisi o dorri’n ôl ar fyfyrwyr rhyngwladol er mwyn lleihau lefelau mudo net, felly, yn ymateb i’r pryder ynghylch mewnfudwyr. Heb gamau lliniaru fel ysgoloriaeth neu fwrsariaeth yr UE, mae Prifysgol Caerdydd yn bryderus y gallai'r senario waethaf olygu bod Cymru'n colli 80–90 y cant o'i myfyrwyr israddedig presennol o'r UE sy’n hanu o’r tu allan i’r DU.

Nodwn gyhoeddiad diweddar y Prif Weinidog  ynghylch Cronfa Bontio'r UE gwerth £50 miliwn i gynnig "cyfuniad o gymorth ariannol a benthyciadau a chefnogi’r gwaith o ddarparu cyngor i fusnesau, gan gynnwys cyngor technegol a masnachol, cyngor ar allforio, a chyngor sy’n benodol ar gyfer sectorau". Yn ogystal, bydd y gronfa yn helpu "cyflogwyr i gadw a pharhau i ddenu dinasyddion yr UE, sy’n gwneud cyfraniad hanfodol i Gymru". Credwn fod achos cryf i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth penodol ar ffurf bwrsariaethau neu ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig, ôl-raddedig ac ymchwil o'r UE ar ôl Brexit.

Yn ymarferol, gallai hwyluso lleoliadau gwaith ar gyfer myfyrwyr yn Ewrop ddod yn fwy anodd, yn dibynnu ar ddatrys y gofynion am fisa. 

Rydym hefyd yn dymuno tynnu sylw at effaith bosibl Brexit ar Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a’r hyn y gallai hyn ei olygu ar gyfer Prifysgol Caerdydd. Mae angen cael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig ynghylch elfen ariannu’r UE Bargen Ddinesig Caerdydd, yn benodol y £106 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer datblygu Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Mae Prifysgol Caerdydd yn rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, cytundeb gwerth £1.2bn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a’r deg awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru. Mae'n ceisio gwella cynhyrchiant a sbarduno arloesi. Mae’n disgwyl creu 25,000 o swyddi ar draws y rhanbarth a denu gwerth £4bn o fuddsoddiad sector preifat.

Mae disgwyl i gyfranogiad y brifysgol fod yn llawer ehangach na hynny. Mae’r Fargen Ddinesig yn rhagweld potensial buddsoddi mewn meysydd eraill lle gall y brifysgol gynnig arbenigedd, megis datblygu meddalwedd a seiberddiogelwch, arloesedd ym maes gwasanaethau cyhoeddus, ynni ac adnoddau, y sector creadigol, iechyd a llesiant, a datblygu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ei hun.

Rydym yn ceisio sicrwydd, felly, gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch statws cydran arian yr UE y Fargen Ddinesig, yn benodol y cyllid ERDF mewn prosiectau sydd yn yr arfaeth, sy’n cynnwys cyllid cymeradwy ar gyfer buddsoddi mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd a chymorth busnes, a dyrannu’r £106 miliwn cytunedig ar gyfer datblygu Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd o’r ERDF.

Casgliad

Mae Prifysgol Caerdydd yn ymroddedig i weithio gyda phartneriaid i gael hyd i’r llwybr gorau i Gymru a gweddill y wlad wrth i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Er gwaethaf yr heriau a ddaw yn sgil y bleidlais i adael yr UE, rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i gyfleoedd yn y cyd-destun rhyngwladol newydd. Rydym am barhau i ffurfio trefniadau cydweithredol cynhyrchiol ledled Ewrop a gweddill y byd.